Mynychwch un neu’r ddwy.
Gwanwyn yn Cletwr.
Ymunwch â John Hughes o Dysgu Bro Ceredigion i ddal prydferthwch ein pentref a’r ardal o’i gwmpas gan ddefnyddio ffotograffiaeth ddigidol.
10-12.30 Cerdded o gwmpas y pentref a Gwarchodfa Natur Cwm Clettwr i ddal elfennau
meicro o’r amgylchedd naturiol a’r amgylchedd o waith pobol.
1.30-3.30 – Golygu lluniau trwy ddefnyddio apps ar gyfer ffonau symudol a chliniaduron gan
ddefnyddio un ai eich dyfais eich hun neu un o rai Cletwr.
Yn addas ar gyfer dechreuwyr yn ogystal â phobol sy’n gyfarwydd â ffotograffiaeth ddigidol.
Gellir mynychu un sesiwn yn unig. Rhagarchebu trwy Tocyn yn angenrheidiol. 12+ oed
£3.50 y sesiwn (+ ffi archebu) – yn cynnwys te/coffi am ddim.
* * * Bore /Morning: http://bit.ly/3kEYxCd
Prynhawn / Afternoon: http://bit.ly/3WEIIJ8
Attend one or both.
Spring at Cletwr.
Join John Hughes of Dysgu Bro Ceredigion to capture the beauty of our village and its surroundings using digital photography.
10-12.30 – Walk around the village and Cwm Clettwr Nature Reserve to capture micro-elements of both the natural and manmade environment.
1.30-3.30 – Editing photos using apps for both mobile phones and laptops using either your own device or one of Cletwr’s.
Suitable for beginners and those familiar with digital photography.
Each session can be taken on its own. Pre-booking essential via Tocyn.12yrs+
£3.50 per session (+ booking fee)- includes free tea/coffee.