Skip to content
2 badges

Cletwr

Calon y Gymuned - Heart of the Community

About

Calon y Gymuned - Heart of the Community

Y Gymuned sydd biau’r Cletwr a nhw sy’n ei redeg.

Menter ddielw ydyn ni, wedi’i sefydlu i ddod a’r gymuned at ei gilydd i ddiogelu cyfleustrau a gwasanaethau hanfodol yn yr ardal wledig yma.

Mae prosiect Cletwr yn dibynnu ar gefnogaeth y tîm mawr o wirfoddolwyr sy’n helpu i gadw ein costau isel a sicrhau y gallwn gynnig siop a caffi ardderchog, ac ystod o wasanaethau ar gyfer y gymuned.

Mae gennym wirfoddolwyr o bob oedran, o 13 oed hyd i beidiwch-â-busnesu! Mae gennym ystod eang iawn o dasgau y mae angen eu gwneud, o bryd i’w gilydd ac yn rheolaidd, gan gynnwys gweini a stocio’r silffoedd yn y siop, yn gweini yn y caffi (gan gynnwys hyfforddiant llawn ar sut i wneud Cappucino ewynnog), gwneud jamiau a siytni, yn gwasanaethu ar y Bwrdd, yn gwneud paentio a DIY, yn helpu i drefnu digwyddiadau, lladd y gwair, golchi’r ffenestri, cyfrif’r arian a llawer mwy.

Llaciwyd rheolau Covid yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru gan symud i Lefel Rhybudd Sero, o ddydd Sadwrn 7 Awst. Rydym ni, fel chi, yn bod yn ofalus gyda’r newidiadau newydd ac yn cymryd lles ein cwsmeriaid, ein staff a’n cymuned leol o ddifrif. Mae’n bwysig bod pawb yn teimlo’n ddiogel pan fyddant yn ymweld â ni. Felly, rydym wedi cyflwyno rhai rheolau ein hunain ar gyfer y safle ac rydym yn awyddus i roi gwybod i’n cwsmeriaid ffyddlon beth i’w ddisgwyl yn ystod eich ymweliad nesaf â Chletwr.

Rydym yn gwerthfawrogi nad yw gwisgo gorchudd wyneb yn ofyniad cyfreithiol ym maes lletygarwch mwyach ond o ran parch i’r gymuned gofynnwn i chi barhau i’w gwisgo pan nad ydych wrth eich bwrdd neu oni bai eich bod wedi’ch eithrio yn feddygol. Bydd ein staff hyfryd hefyd yn parhau i wisgo gorchudd wyneb ar gyfer y dyfodol agos.

Rydym wedi cynyddu’r nifer yn ein siop o 3 chwsmer i 5 cwsmer. Os oes 5 cwsmer yn y siop, mae’n bosibl y byddwn yn dal i ofyn i chi ddisgwyl nes bod llai o bobl i mewn yno. Fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gynyddu niferoedd yn ein caffi. Rydym yn gofyn i bob cwsmer yn ein siop a’n caffi gadw pellter addas oddi wrth ei gilydd fel rhagofal.

Ac yn olaf, rydym wedi cael gwared ar y system unffordd ac mae hyn yn golygu y gallwch chi gerdded yn rhydd o gwmpas Cletwr heb orfod dilyn unrhyw saethau ar y llawr.

Er bod y rheolau wedi cael eu llacio, mae gennym hyder llwyr yn y cyfyngiadau a’r newidiadau newydd hyn. Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid a’r gymuned sydd wedi parhau i gefnogi Cletwr yn ystod y cyfnod anodd hwn a hefyd am ofal ac ymroddiad ein holl wirfoddolwyr a staff anhygoel. Parhewch i gadw’n ddiogel a chofiwch fod yn garedig tuag at eich gilydd.

 

Cletwr is owned and run by the community.

We’re a not-for -profit organisation set up to bring the community together to safeguard vital facilities and services in this rural area.

The whole Cletwr project depends on the support of a large team of volunteers who ensure that we can offer an excellent shop, caffi and a range of services for the community.

We have volunteers of all ages and a very wide range of tasks that need doing including serving and stocking shelves in the shop, serving and waiting in the caffi, making jams and chutney, serving on the Board,  painting and DIY, helping organise events, cutting  grass, washing  windows, counting money and lots more.

The recent relaxing of Covid rules by the Welsh Government moving to Alert 0 came into place on Saturday 7th August. We, like you, are being cautious with the new changes and take the wellbeing of our customers, staff and our local community very seriously. It’s important that everyone feels safe when they visit us. So we have brought in a few of our own house rules and wanted to let you lovely people know what to expect on your next visit to Cletwr.

We appreciate that wearing masks is not a legal requirement in hospitality anymore but we ask out of respect to our community that you continue to wear them when you’re not at your table or unless you are medically exempt. Our lovely staff will also continue to wear masks for the foreseeable future.

We have increased the capacity in our shop from 3 to 5 customers. If we have 5 customers in the shop, you still may be asked to wait until the numbers have reduced. However we have no current plans to increasing capacity in our cafe. We do ask all customers in both our shop and cafe to keep a healthy distance away from each other as a precaution.

And finally, we have removed the one way system and this means you can freely walk around and explore Cletwr without having to follow any arrows on the floor.

Although the rules have been relaxed we have complete confidence in what restrictions we put in and these new. changes. We would like to thank our customers and the community who have continued to support Cletwr during this difficult time and also the care and dedication of our all our amazing volunteers and staff Please continue to keep safe and remember to be kind to each other.

 

Y Gymuned sydd biau’r Cletwr a nhw sy’n ei redeg. Menter ddielw ydyn ni, wedi’i sefydlu i ddod a’r gymuned at ei gilydd i ddiogelu cyfleustrau a gwasanaethau hanfodol yn yr ardal wledig yma. Mae prosiect Cletwr yn dibynnu ar gefnogaeth y tîm mawr o wirfoddolwyr sy’n helpu i gadw ein costau isel a sicrhau y gallwn gynnig siop a caffi ardderchog, ac ystod o wasanaethau ar gyfer y gymuned. Mae gennym wirfoddolwyr o bob oedran, o 13 oed hyd i...

Badges

I am taking opportunities to take notice of new things, such as the changing seasons, plants, and wildlife.


Awarded 11th November 2022

I am taking opportunities to help others, look after myself and to create connections with the people around me.


Awarded 11th November 2022

 

Add new activity

Would you like to save your progress?


Note: Saving as a draft means your activity will be available for you to edit in your dashboard.​

Selecting delete marks your activity as deleted in your dashboard.​

Please sign in or register

Search Connect Ceredigion

Cookies on Connect Ceredigion

We use cookies to give you the best online experience.

Select 'Accept all' to agree to all cookies.

Some cookies are essential. Others can be controlled in your cookie preferences.