Come and learn how to be a nature friendly gardener & food grower at Denmark Farm.
Volunteers will receive hands-on practical training with our facilitators Angie & Andy Polkey, learn how to grow edible crops, plus care for a wildlife friendly garden and courtyard.
As part of our friendly little team of dedicated volunteers you will ensure that the garden is maintained, productive and attractive to wildlife at all times.
Dewch i ddysgu sut i fod yn arddwr a thyfwr bwyd natur-gyfeillgar yn Fferm Denmark.
Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant ymarferol gyda’n hwyluswyr, Angie ac Andy Polkey, gan ddysgu sut i dyfu cnydau maethlon ynghyd â gofalu am ardd a chwrt sy’n glên i fywyd gwyllt.
Fel rhan o’n tîm bach clên o wirfoddolwyr ymroddgar, byddwch yn sicrhau bod yr ardd yn cael ei chynnal a’i chadw, yn gynhyrchiol ac yn ddeniadol i fywyd gwyllt drwy’r adeg.
- August: Saturday 31st (9:30am-1pm)
Please bring a packed lunch. Hot drinks and biscuits will be provided.
The programme is suitable for anyone from complete beginners, to those who already have some previous growing experience / knowledge. We will also be constructing some raised beds to make the garden more practical and accessible. There will be a range of tasks available from sowing, digging, planting, weeding, watering, cutting grass and basic carpentry.
Facilitators:
Led by experienced permaculture, gardening & wildlife educator, Angie Polkey. Angie’s background in ecology and conservation helps her understand – and teach – the natural principles, patterns and processes that underpin sustainable and wildlife friendly gardening. With her husband, she cares for a small acreage in west Wales with several forest gardens, vegetable beds, a polytunnel & greenhouse, wildlife habitats, and hard-working chickens! After a long career with conservation organisations such as the RSPB, Wildlife Trusts, Learning through Landscapes, Denmark Farm Conservation Centre and PONT Cymru, Angie now works as a freelance educator & advisor.
Discovering permaculture in 1995 put Andy Polkey and his wife Angie on a life-long path of learning and growing, 25 years of that path rooted on and in their place in mid Wales. Professionally he has worked in conservation for almost 40 years and finds the “edge” between ecology and permaculture a fruitful and fascinating zone of cross fertilisation and interaction. But he is primarily and passionately a gardener, and since leaving full time work you can now find him spending many of his waking hours practicing gardening as meditation.
What to Bring:
Waterproofs and wellies or boots, gardening gloves and a packed lunch.
The Cost:
FREE!
How to book:
Please drop us an email to [email protected], or call 01570 493358 to check if there are places and to book.
Need more info?
Email: [email protected]
Phone: 01570 493358
- Awst: Dydd Sadwrn 31 (9:30-1)
Dewch â phecyn bwyd os gwelwch yn dda. Darperir diodydd poeth a bisgedi.
Mae’r rhaglen yn addas i unrhyw un, o ddechreuwyr pur i’r rheini sydd eisoes â rhywfaint o brofiad / gwybodaeth flaenorol o dyfu. Byddwn hefyd yn adeiladu ychydig o welyau wedi’u codi i wneud yr ardd yn fwy ymarferol a hygyrch. Bydd amrywiaeth o dasgau ar gael, o hau hadau, palu, plannu, chwynnu, dyfrio, torri’r gwair a gwaith coed sylfaenol.
Yr Hwyluswyr:
Dan arweiniad yr addysgydd profiadol ym meysydd paramaethu, garddio a bywyd gwyllt, Angie Polkey. Mae cefndir Angie mewn ecoleg a chadwraeth yn ei helpu i ddeall – ac addysgu – yr egwyddorion, patrymau a phrosesau sy’n tanategu garddio cynaliadwy sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Gyda’i gŵr, mae’n gofalu am ychydig erwau o dir yng ngorllewin Cymru gyda sawl gardd goedwig, gwelyau llysiau, twnnel tyfu a thŷ gwydr, cynefinoedd bywyd gwyllt ac ieir bach bisi! Ar ôl gyrfa hir gyda sefydliadau cadwraeth megis yr RSPB, Ymddiriedolaethau Natur, Dysgu drwy Dirweddau, Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark a PONT Cymru, mae Angie bellach yn gweithio fel addysgydd ac ymgynghorydd llawrydd.
Darganfod paramaethu ym 1995 a roddodd Andy Polkey a’i wraig Angie ar lwybr einioes o ddysgu a thyfu, gyda 25 mlynedd o’r llwybr hwnnw wedi’u gwreiddio ar eu tyddyn yng nghanolbarth Cymru. Yn broffesiynol, mae wedi gweithio ym maes cadwraeth am bron i 40 mlynedd gan gael bod y “ffin” rhwng ecoleg a pharamaethu yn rhywle ffrwythlon a chyfareddol lle ceir croesffrwythloni a rhyngweithio. Ond garddwr â thân yn ei fol yw Andy yn bennaf ac ers gadael gwaith llawn-amser, yn ystod ei oriau effro gallwch gan amlaf gael hyd iddo’n defnyddio garddio fel dull o fyfyrio.
Beth sy’n cael ei ddarparu:
- Yr holl offer a chyfarpar (dewch â’ch menig garddio’ch hun os oes rhai gynnoch chi)
- Tiwtora ac arweiniad
- Awyr iach ac ymarfer
- Ffrindiau newydd
- Diodydd poeth a bisgedi
Beth i ddod ag e gyda chi:
Dillad dal dŵr a welis neu sgidiau, menig garddio a phecyn cinio.
Y pris:
AM DDIM!
Sut i archebu lle:
Anfonwch bwt o e-bost aton ni i [email protected], neu ffonio 01570 493358 i weld oes yna leoedd ac i archebu lle.