Gweminar i drafod beth yw mannau Croeso Cynnes
A webinar to discuss what is a Warm Welcome space
Wrth i'r argyfwng costau byw waethygu a gyda'r gaeaf ar ein gwarthaf, mae Cyngor Sir Ceredigion a CAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion) yn bwriadu gwneud popeth y gallwn ni i helpu trigolion yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Byddwn yn gofyn am help a chefnogaeth ein bartneriaid yn ogystal â grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob cwr o'r sir i gydweithio a helpu unigolion a theuluoedd sy'n fregus oherwydd yr argyfwng costau byw.
Rydym yn awyddus i ddarparu rhwydwaith o fannau cynnes i helpu unrhyw un sy'n cael trafferth gyda chostau byw dros y gaeaf. Ein bwriad ydy gweithio gydag unrhyw grŵp cymunedol neu sefydliad fyddai'n gallu cynnig mannau cynnes o fewn y gymuned.
Os ydych chi yn aelod o unrhyw sefydliad neu grŵp cymunedol, ac yn meddwl y gallech chi fod yn rhan o’r ymgyrch i gynorthwyo y bregus o fewn ein cymunedau drwy ddarparu lle cynnes dros y gaeaf, rydyn yn awyddus i glywed gennych.
*************************************************************************
As the cost of living crisis worsens and with winter approaching, Ceredigion County Council and CAVO (Ceredigion Association of Voluntary Organisations) intend to do everything we can to support residents during these difficult times.
We will need help and support from our partners as well as community groups and organisations across the county to work together and support vulnerable individuals and families through the cost of living crisis.
We are keen to provide a network of warm spaces to support anyone struggling with the cost of living this winter. We want to work with any community group or organisation that would be able to provide warm spaces within their community.
If you are a member of an organisation or community group, and think you could be part of the campaign to assist the vulnerable by providing a warm space over the winter, we are keen to hear from you.