Dolen Teifi has several community minibuses available from 14 to 17 seats including the driver), and all are wheelchair accessible. You will need a MiDAS certificated driver- sometimes we can put you in touch with one, or we can train your drivers for you.We have a fleet of eight accessible buses and three accessible cars of which one is an MPV.
The minibuses are available to groups / organisations to provide access to essential community services, which promote community activity, social inclusion, community cohesion, regeneration, rural health, well-being, and recovery from mental health problems.
- - - - - - - - - - - - - -
Mae gan Dolen Teifi nifer o fysiau mini cymunedol ar gael o 14 i 17 sedd (gan gynnwys y gyrrwr), ac mae pob un yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Bydd angen gyrrwr gyda tystysgrif MiDAS arnoch - weithiau gallwn eich rhoi mewn cysylltiad ag un, neu gallwn hyfforddi eich gyrwyr ar eich rhan. Mae gennym fflyd o wyth bws hygyrch a thri char hygyrch, un ohonynt yn MPV.
Mae'r bysiau mini ar gael i grwpiau / sefydliadau i ddarparu mynediad i wasanaethau cymunedol hanfodol, sy'n hyrwyddo gweithgarwch cymunedol, cynhwysiant cymdeithasol, cydlyniant cymunedol, adfywio, iechyd gwledig, lles ac adferiad o broblemau iechyd meddwl.