Diolch i grantiau oddi wrth Ceredigion Oed-Gyfeillgar, CAVO a Chyngor Sir Ceredigion i brynnu allweddfwrdd a deunydd sain, cynhaliwyd Cyngerdd Hâf Côr Dyffryn Arth yng Nghanolfan newydd sbon Ysgol Cribyn ar noson boeth o Fehefin. Roedd pawb wedi mwynhau’r achlysur; fe ganodd y côr rhaglen amrywiol mewn pum iaith ac fe wnaeth y delynores ifanc lleol, Alwena Owen, canu’r delyn yn wefreiddiol.
Thanks to grants from Age-Friendly Ceredigion, CAVO and Ceredigion Community to buy a keyboard and audio equipment, the Summer Concert was held at the newly refurbished Canolfan Ysgol Cribyn on a hot June night. All enjoyed the event with the choir performing a varied programme in 5 languages and Alwena Owen, a young local harpist, giving a thrilling performance on the harp.