Rydyn ni'n newid ein henw!
Dyw ein hen enw, Bwyd Dros Ben Aber neuAber Food Surplus, bellach ddim yn adlewyrchu holl gwmpas ein gwaith o greu system fwyd fwy gwydn a chynaliadwy ... Efallai na wnaeth byth!
Am y tro, rydyn ni'n cofleidio'r enw chwareus 'Bwyd Aber Pwy?' ‘Aber Food Who?’ – galwad i weithredu a gwahoddiad agored i chi helpu i lunio ein hunaniaeth yn y dyfodol.
Nid newid enw yn unig yw hyn; mae'n wahoddiad i gymryd rhan mewn adeiladu system fwyd well i bawb yn Aberystwyth. Mae 'Pwy?' yn cynrychioli pob un ohonon ni – unigolion, teuluoedd, a'r gymuned gyfan – sydd â'r pŵer i wneud newid amgylcheddol cadarnhaol, un cam ar y tro.
Pam newid ein henw?
Pan wnaethon ni lansio gyntaf fel Bwyd Dros Ben Aber, roedden ni’n canolbwyntio ar ddosbarthu bwyd dros ben a lleihau gwastraff bwyd. Ond nawr, mae ein gwaith yn cynnwys llawer mwy na dim ond hynny – garddio cymunedol, gweithdai sgiliau bwyd, a phrosiectau gwydnwch bwyd lleol, ac mae gan y cyfan bwyslais ar gynaliadwyedd a chydweithio. Credwn ei bod hi’n bryd i'n henw adlewyrchu'n well y genhadaeth ehangach hon a'r gwaith trawsnewidiol a wnawn gyda'r gymuned.
Ond dydyn ni ddim eisiau gwneud hynny ar ein pennau ein hunain. Dyna le mae gennych chi ran i’w chwarae!
Mae eich mewnbwn yn hollbwysig!
Rydyn ni’n lansio proses i chwilio am enw newydd, a bydden ni wrth ein bodd yn clywed eich syniadau. Dros y pythefnos nesaf
, rydyn ni’n eich gwahodd i gymryd rhan yn y broses o lunio dyfodol ein menter. Dyw hyn ddim yn ymwneud â dewis enw yn unig – mae hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am yr hyn a wnawn, pam rydyn ni’n ei wneud, a sut gallwch chi gymryd rhan yn ein cenhadaeth i greu system fwyd lleol sy’n fwy gwydn a chynaliadwy.
Rydyn ni am i chi roi adborth ar sut gall ein henw ddal ein gwerthoedd a’n pwrpas yn well. Bydd eich mewnbwn yn ein helpu i barhau i feithrin ymddiriedaeth, cysylltiadau cymunedol, ac i greu enw sydd wir yn ein cynrychioli ni i gyd.
Pam 'Aber Food Who' / ‘Bwyd Beth Aber’?
Am y tro, rydyn ni’n cyfeirio aton ni’n hunain yn chwareus fel ‘Aber Food Who’ / ‘Bwyd Beth Aber?’ – galwad hwyliog i weithredu. Mae’n wahoddiad i chi gymryd rhan yn y broses gyffrous hon, ac i gymryd camau tuag at newid amgylcheddol cadarnhaol, beth bynnag yw hynny i chi. Mae ‘beth’ yn adlewyrchu nid yn unig ein hunaniaeth newydd, ond hefyd y gymuned yn Aberystwyth a wasanaethwn – oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae’n ymwneud â phob un ohonon ni.
Sut i gymryd rhan - llenwch y ffurflen google erbyn 31 Rhagfyr
Bydden ni wrth ein bodd pe baech chi’n cymryd peth amser i lenwi’r ffurflen adborth hon – bydd yn cymryd rhwng 5 a 10 munud, a bydd eich mewnbwn yn gwneud gwahaniaeth mawr! Drwy gwblhau’r arolwg hwn, byddwch yn ein helpu i ddewis enw sy’n adlewyrchu’n well pwy ydyn ni heddiw a lle rydyn ni’n anelu ato. P'un a ydych chi'n gwsmer, yn wirfoddolwr, neu'n aelod o'r gymuned, byddwn yn gwerthfawrogi eich barn.
Ffurflen adborth:https://forms.gle/
Diolch.
Edrychwn ymlaen at gael eich cwmni ar y siwrne hon i adnewyddu ein hunaniaeth gan aros yn driw i’n cenhadaeth ar yr un pryd. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i greu newid ystyrlon, adeiladu diwylliant bwyd lleol ffyniannus, a gweithredu ar newid hinsawdd.
Dysgwch ragor am ein taith a sut gallwch chi gymryd rhan ar ein blog! https://www.